Newyddion
01/09/09: Haf prysur Silibili! Mae Silibili wedi cael haf llawn o ddigwyddiadau yn 2009. Yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd, roedd Silibili yn rhannu stondin gyda chwmni Bodlon www.bodlon.com , ac fe gafwyd amser gwych! Roedd hi'r tro cyntaf i Silibili ymddangos yn Tafwyl yng Nghaerdydd yn ogystal a'r Sioe Fawr yn Llanelwedd yng Ngorffennaf, ac yna, ym mis Awst, fe deithiodd Bili a'r criw i'r Bala ar gyfer pen-blwydd arbennig yn 1 oed! Mae 'di bod yn flwyddyn gyntaf brysur ond llwyddiannus i'r tim!

Nora a Delyth yn Ffair Aeaf Llanelwedd '08.
09/08/08: Eisteddfod lwyddiannus i Silibili
Fe gafodd Silibili lansiad ac wythnos gyntaf o fasnachu llwyddiannus iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Yn ôl y perchennog, Mererid Wigley, mae'r cwmni wedi hyd yn oed gwerthu allan o rai meintiau mewn cynlluniau penodol. "Yr un mwyaf poblogaidd oedd 'Fi sy'n bwysig' wedi'i ddilyn gan 'Dwishe sylw!' a 'Cynnyrch Lleol' ", yn ôl Mererid. "Fe werthodd y gweddill yn dda hefyd ac fe ges i fy mhlesio'n fawr gyda'r holl ymateb positif i'r cynnyrch." 
07/08/08: Heini'n dysgu Bili i ddawnsio!
Bu Heini, un o gymeriadau mwyaf egnïol a byrlymus S4C ar y stondin, yn dangos Bili, y mwnci, a rhai o'i ffrindiau bach newydd, sut i gadw'n heini gyda cwpwl o symudiadau bach sionc! Roedd rhai o'i ffrinidau newydd wedi gwisgo'n bwrpasol mewn crysau-t Silibili - dillad masnach deg gyda graffeg trawiadol, digon o liw a chynlluniau ffraeth.
05/08/08: Jac y Jwc yn lansio Silibili.co.uk
Fe lansiodd cymeriad poblogaidd S4C, Jac y Jwc, gwmni Silibili.co.uk yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mawrth, y 5ed o Awst 2008. Mae Jac y Jwc yn disgwyl babi gyda'i wraig, Jini, ac roedd yn ymweld â'r stondin i ddod o hyd i anrheg i'r babi newydd. Roedd Bili, y mwnci, yno i'w gyfarfod, ynghyd â ffrindiau newydd, ac fe gawsom i gyd hwyl yn torri a bwyta cacen arbennig ar gyfer yr achlysur.
Eitemau'r Wasg:
Golwg - Sept 08
Cambrian News 2
Western Mail 02/08/08
BBC Wales Online 05/08/08
Daily Post: 07/08/08 (hanner ffordd i lawr y dudalen)
Daily Post 2: 07/08/08 (tuag at ddiwedd y dudalen)
