Amdanom ni
Ein Cynnyrch
Bwriad Silibili yw apelio at rieni modern a theidiau a neiniau blaengar sy’n deall bod moesoldeb y sefyllfa yn bwysig ond sydd eisiau dilledyn atyniadol hefyd. Mae’r dillad i gyd wedi’u cynhyrchu mewn dull moesol, Masnach Deg. Mae’r marc hwn yn golygu bod y ffermwyr a’r gwneuthurwyr sydd wedi chwarae’u rhan wrth greu a chynhyrchu’r dillad yn cael pris teg a chyson am eu gwaith sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau fel gofal meddygol ychwanegol neu addysg.
Mae label Silibili i bobl bychain yn mynd i gynyddu dros amser. felly cadwch lygad allan! Dillad deniadol, cydwybodol clir.
Pwy ydym ni
Roedd Mererid Wigley wedi bod yn casglu sloganau a syniadau posib ers ei dyddiau coleg. Fe benderfynodd arbenigo mewn dillad i fabanod a phlant ifanc ar ôl ceisio prynu anrhegion i blant ei ffrindiau a gweld bod yna angen am ddillad hwyliog, modern a ffasiynol i fabanod yn y Gymraeg.
Roedd yn teimlo bod digon o ddillad yn cael eu cynnig gyda sloganau Saesneg ond dim ond ambell gwmni oedd yn cynnig sloganau Cymraeg. Yn ogystal, roedd y mwyafrif yn canolbwyntio ar ddillad i blant ac felly, roedd hi’n teimlo bod yna le yn y farchnad am gynhyrchu crysau-T beiddgar Cymraeg yn benodol i’r babi modern Cymreig.
A dyma sefydlu Silibili yn ystod haf 2008.
