Sut i archebu?
Fe wnawn gludo at eich drws, ble bynnag yr ydych yn byw.
Gallwch archebu yma ar ein gwefan ddiogel: www.silibili.co.uk
Ar y ffôn: +44 (0)29 2063 0386. Gadewch eich manylion cyswllt ac fe ddychwelwn yr alwad cyn gynted â phosib.
Ar ebost: post@silibili.co.uk
Neu trwy’r post:
Silibili, 9 Bernard Avenue, Treganna, Caerdydd, CF5 1BT
Talu
Gellir talu am bob archeb drwy Worldpay gan ddefnyddio Visa, Mastercard, Maestro/Solo neu Visa Debit/Electron. Wrth archebu trwy’r post, gwnewch eich sieciau yn daladwy i Silibili gyda’ch enw a’ch cyfeiriad llawn ar y cefn.
Anfon anrheg:
Mi fedrwn anfon y cynnyrch fel anrhegion i gyfeiriad gwahanol, ond rydym angen eich cyfeiriad o hyd er mwyn anfon derbyneb atoch. Os ydych am anfon anrheg ac am i ni ysgrifennu neges at gerdyn anrheg bach, gadewch i ni wybod pan yn archebu.
