Sut i archebu?

Fe wnawn gludo at eich drws, ble bynnag yr ydych yn byw.

Gallwch archebu yma ar ein gwefan ddiogel: www.silibili.co.uk

Ar y ffôn: +44 (0)29 2063 0386. Gadewch eich manylion cyswllt ac fe ddychwelwn yr alwad cyn gynted â phosib.

Ar ebost: post@silibili.co.uk

Neu trwy’r post:
Silibili, 9 Bernard Avenue, Treganna, Caerdydd, CF5 1BT

Talu

Gellir talu am bob archeb drwy Worldpay gan ddefnyddio Visa, Mastercard, Maestro/Solo neu Visa Debit/Electron. Wrth archebu trwy’r post, gwnewch eich sieciau yn daladwy i Silibili gyda’ch enw a’ch cyfeiriad llawn ar y cefn.

Anfon anrheg:

Mi fedrwn anfon y cynnyrch fel anrhegion i gyfeiriad gwahanol, ond rydym angen eich cyfeiriad o hyd er mwyn anfon derbyneb atoch. Os ydych am anfon anrheg ac am i ni ysgrifennu neges at gerdyn anrheg bach, gadewch i ni wybod pan yn archebu.

 

Eisteddfod 2008

Fe gafodd Silibili ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaedydd yn 2008. Roedd Jac y Jwc, Heini a Bili'r mwnci yno. Oeddech chi?!

Eisteddfod 2008

Wyt ti'n barod i fod ychydig yn sili?!

Clicia ar 'cynnyrch' i ddechrau chwilio.

Ymunwch â Bili

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr ac i glywed am hynt a helynt Bili a'n cynnyrch!

Sign Up