Dychwelyd
Gobeithiwn y byddwch wrth eich bodd â chynnyrch Silibili ond os nad ydych chi, am ba bynnag reswm, fe fyddwn yn hapus i gynnig ad-daliad llawn neu i’w cyfnewid. Ni fyddwn yn ad-dalu costau cludiant. Anfonwch yr eitem yn ôl atom heb ei wisgo ac yn ei becyn gwreiddiol o fewn 14 diwrnod.
Ceisiwch gael tystiolaeth o’i bostio gan na fedrwn ysgwyddo cyfrifoldeb am eitemau sydd ddim yn ein cyrraedd. Gwnewch yn siŵr bod pob parsel wedi ei selio a'i amddiffyn yn dda a’ch bod wedi cynnwys manylion yr archeb a’r rheswm dros ei ddychwelyd.
Nid ydym yn talu am gostau cludiant i’w ddychwelyd onibai bod yr eitemau yn ddiffygiol. Os yw’r nwyddau wedi’u difrodi, yn ddiffygiol neu yn wallus, gadewch i ni wybod o fewn 24 awr o’u derbyn naill ai dros y ffôn neu ebost, ac fe wnawn ein gorau i’w newid i chi. Mae’n rhaid i’r eitemau gael eu dychwelyd atom gyda’r pecyn gwreiddiol.
Anfonwch y nwyddau i’w dychwelyd at: Silibili, 9 Bernard Avenue, Treganna, Caerdydd, CF5 1BT
Unrhyw gwestiynnau?
Os oes gennych unrhyw ymholiad neu gwestiynnau pellach, mae croeso i chi godi’r ffôn ac fe fyddem yn hapus i’ch helpu. +44(0)29 2063 0386.
